Materion NAD ydynt yn rheswm dros apelio.
-
Herio barn academaidd neu broffesiynol yr Arholwyr. Mae hyn yn cynnwys eu penderfyniad i roi marc penodol ichi.
-
Siom gyda chanlyniad (e.e. marc/dosbarth) lle mae’r marciau wedi eu cofnodi’n gywir, mae’r rheoliadau asesu wedi eu dilyn yn gywir, a lle nad oes tystiolaeth o anghysondeb materol.
-
Materion sy’n destun cwyn, er enghraifft materion ynghylch goruchwylio, adborth, neu ddarparu gwasanaethau gan y Brifysgol gan gynnwys addysgu a chefnogaeth. Os ydych am godi cwyn am faterion o’r fath, gweler gweithdrefn Gwynion y Brifysgol drwy ddilyn y ddolen hon.
-
Cwestiynu cywirdeb marciau. Mae gan y Brifysgol weithdrefn wahanol ar gyfer hyn, y gallwch ddod o hyd iddi yma .