Mae cyfeireb yn rhestru'r meini prawf ar gyfer prawf neu aseiniad.
Mae cyfeirebau'n galluogi addysgwyr i ddyfarnu gradd mewn modd cyson, ac yn rhoi adborth gwerthfawr i fyfyrwyr.
1) Gan sicrhau eich bod yn y cwrs iawn, cliciwch ar Offer Cwrs yn y Panel Rheoli, a dewis cyfeirebau.
2) Rhowch enw a disgrifiad y gyfeireb.
3) Mae cyfeireb yn cynnwys rhesi a cholofnau.
Mae'r rhesi'n cyfateb i'r meini prawf.
Mae'r colofnau'n cyfateb i lefel y cyflawniad ar gyfer pob maen prawf.
Gellir ychwanegu neu ddileu rhesi a cholofnau i weddu ag anghenion penodol eich cyfeireb.
4) Cewch olygu'r testun mewn rhesi a cholofnau hefyd.
5) Rhowch yr wybodaeth angenrheidiol ym mhob cell o'r gyfeireb.
6) Cewch ddewis rhoi nifer o bwyntiau neu ystod o bwyntiau ar gyfer pob cell yn y gyfeireb. Rhowch y nifer neu'r ystod yn y celloedd perthnasol.
7) Ar ôl i chi orffen, cliciwch ar Cyflwyno. Bydd y gyfeireb newydd yn ymddangos ar y dudalen Cyfeirebau.
Yn y Ganolfan Graddau, cewch ddewis colofn Prawf neu Aseiniad a chysylltu cyfeireb â hi.
Pan fyddwch yn dymuno graddio'r golofn honno, cewch weld y gyfeireb mewn ffenest ar wahân wrth werthuso gwaith myfyrwyr.
Creu Cyfeireb
- Last update:
- 24-10-2016 17:29
- Author:
- Helen
- Revision:
- 1.0
You cannot comment on this entry