Beth os ydw i'n cael fy nhynnu'n ôl o'r Brifysgol oherwydd diffyg presenoldeb?


Bydd eich Coleg neu'r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost os ydych yn cael eich tynnu'n ôl o'r Brifysgol oherwydd diffyg cyfranogiad. Bydd gennych hawl i ofyn am adolygiad terfynol o'r penderfyniad hwn. Gweler y Weithdrefn Adolygiad Terfynol. Dylai myfyrwyr sylwi bod rhaid cyflwyno unrhyw gais am adolygiad terfynol i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Academaidd o fewn pum niwrnod gwaith i ddyddiad y llythyr/e-bost yn cadarnhau'r penderfyniad i dynnu'r myfyriwr yn ôl, yn unol â'r Weithdrefn Adolygiad Terfynol. Os nad ydych yn cyflwyno cais am Adolygiad Terfynol, byddwch yn cael eich tynnu'n ôl o'r Brifysgol ar ôl pum niwrnod gwaith i ddyddiad y llythyr/e-bost.

Last update:
23-09-2020 14:17
Author:
Hayley Feehan
Revision:
1.1
Average rating:0 (0 Votes)
 

You cannot comment on this entry

Chuck Norris has counted to infinity. Twice.